Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-24-13 papur 2

Cyllideb Ddrafft 2014-15 : Datblygu Cynaliadwy – Papur gan y Gweinidog y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a’rGweinidog Cyllid

 

Diben

 

Mae’r papur hwn yn nodi dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu cynaliadwy yng nghyd-destun Cyllideb Ddrafft 2014-15, a gyhoeddwyd ar 8 Hydref 2013.

 

Er mai’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi sy’n gyfrifol am faterion yn ymwneud â pholisi datblygu cynaliadwy, mae’r cyfrifoldeb ehangach am ystyried datblygu cynaliadwy a’i roi ar waith ar draws portffolios a’u cyllidebau yn fater i bob Gweinidog.  Ni fyddai’n briodol felly i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi drafod penderfyniadau cyllidebol a wnaed gan Weinidogion eraill. Mae’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a’r Gweinidog Cyllid ill dau yn ymddangos yn y Pwyllgor i gydnabod eu rôl i gyd-arwain y gwaith o fwrw ymlaen a hyn.  

 

Cyd-destun

 

Dyletswyddau o ran Datblygu Cynaliadwy

 

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan adran 121 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, a Gweinidogion Cymru o dan adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ddyletswydd sy’n mynnu eu bod yn creu cynllun sy’n nodi sut maent, drwy ymarfer eu swyddogaethau, yn bwriadu hyrwyddo datblygu cynaliadwy.  

 

Mae tri chynllun wedi cael ei gyhoeddi er 1998, a chyhoeddwyd y diweddaraf, sef Cymru’n Un:Cenedl Un Blaned – Cynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn 2009. Mae hwn yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gynaliadwy, a dyma sut mae'n diffinio datblygu cynaliadwy:

 

Mae datblygu cynaliadwy yn golygu gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau, gan sicrhau ansawdd bywyd gwell i’n cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol;

·         mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal

·         mewn ffyrdd sy’n gwella’r amgylchedd naturiol a diwylliannol ac yn parchu ei derfynau – gan ddefnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau’r ddaear a chynnal ein hetifeddiaeth ddiwylliannol.

 

Datblygu cynaliadwy yw’r broses a ddefnyddiwn i gyflawni nod cynaliadwyedd.

 

O dan adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’n ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiad ar sut cafodd y cynigion yn y cynllun datblygu cynaliadwy eu rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol honno. Ym mis Tachwedd 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei 12fed Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi cyfres o Ddangosyddion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru er mwyn cyfleu ac amlygu cynnydd mewn materion allweddol a meysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy. Cyhoeddwyd y dangosyddion diweddaraf ym mis Awst 2013.

 

Yn ogystal â’r cynlluniau uchod, rydym hefyd wedi rhoi ystod o adnoddau ar waith i wneud yn siŵr ein bod yn gwreiddio datblygu cynaliadwy yn ein prosesau datblygu rhaglenni a pholisïau ac yn ein prosesau gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys gofyn am achosion busnes a chyngor ynghylch polisïau ar gyfer cynigion gwariant er mwyn sefydlu'r achos dros newid, gosod amcanion clir, ystyried ystod eang o opsiynau neu atebion, a'r trefniadau ar gyfer cyflawni, gan gyfeirio at:

 

·         sut maent yn cyd-fynd â strategaeth y Rhaglen Lywodraethu (gydag egwyddorion Datblygu Cynaliadwy yn sail iddynt);

·         yr effaith ar bobl Cymru a'r dystiolaeth ategol (yng nghyd-destun datblygu cynaliadwy);

·         cost ariannol ein buddsoddiad (gan gynnwys cynaliadwyedd ariannol);

·         systemau sydd ar gael i ysgogi newid (gan gynnwys unrhyw elfennau contractiol); a

·         rheoli’r gwaith.

 

Mae’r dull hwn o weithredu yn cydnabod bod datblygu cynaliadwy yn sail i ni gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru – blaenoriaethau megis creu swyddi a thwf a threchu tlodi – ac mae’n helpu i wreiddio datblygu cynaliadwy yn y gwaith o ddatblygu polisïau.   

 

Cyllideb Ddrafft 2014-15

 

Mae datblygu cynaliadwy yn sail i'n holl gynlluniau gwario. Ar y lefel symlaf, mae hyn yn golygu sicrhau bod penderfyniadau yn gynaliadwy yn ariannol.  Mae hefyd yn golygu sicrhau sylfaen dystiolaeth gref i ddylanwadu ar benderfyniadau am flaenoriaethau, yn ogystal â bod yn hyderus ein bod yn cydbwyso’r goblygiadau tymor byr â’r effaith hirdymor ar ein hamcanion strategol.  Mae ystyriaethau o’r fath yn dod yn bwysicach byth wrth i gyllidebau leihau ac wrth i ni wynebu penderfyniadau ynghylch ble i leihau gwariant yn hytrach na ble i fuddsoddi adnoddau ychwanegol. 

 

Y Rhaglen Lywodraethu

 

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cadarnhau ein hymrwymiad, a nodwyd yn gyntaf yn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy – Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned (2009), i sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw ein hegwyddor drefniadol graidd.  Mae ein polisïau a’n rhaglenni yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd ac i degwch, ac mae’r Rhaglen Lywodraethu (2011) yn atgyfnerthu pwysigrwydd datblygu cynaliadwy fel y brif egwyddor drefniadol wrth ddiffinio’r cynllun datblygu gorau i Gymru.

 

Dyma ein gwedd Gymreig ar ddatblygu cynaliadwy fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu: “lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pobl a chymunedau, sy’n ymgorffori ein gwerthoedd ynghylch tegwch a chyfiawnder cymdeithasol. Rhaid edrych hefyd tua’r dyfodol wrth wneud ein penderfyniadau – at fywydau plant ein plant yn ogystal â chenedlaethau heddiw”

 

Mae'r rhaglen yn nodi:

 

·         Canlyniadau hirdymor y mae’r Llywodraeth yn gweithio i’w cyflawni;

·         Y dangosyddion lefel uchel y byddwn yn eu defnyddio i fesur cynnydd wrth gyflawni’r canlyniadau hyn;

·         Y camau sy’n cael eu cymryd i gyflawni’r canlyniadau hynny; a

·         Dangosyddion cynnyrch neu broses y byddwn yn eu defnyddio i wneud yn siŵr bod y camau hynny ar y trywydd iawn.

 

Mae egwyddorion datblygu cynaliadwy yn cael eu hadlewyrchu drwy’r Rhaglen Lywodraethu, ac mae'r blaenoriaethau ym mhob pennod yn adeiladu ar y dull hwn o weithredu. Mae pob Gweinidog yn ystyried datblygu cynaliadwy wrth wneud penderfyniadau am eu meysydd polisi ac am eu cyllidebau. 

 

Gyda chyllideb sy’n lleihau, mae’n bwysicach byth bod yn glir ynghylch ble dylem fuddsoddi ein hadnoddau i sicrhau canlyniadau cynaliadwy ar gyfer pobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol.  Er mwyn ein helpu i ddeall hyn yn well, cyhoeddasom Deall Dyfodol Cymru, sy’n bwrw golwg ar asedau Cymru yn erbyn cefndir o dueddiadau byd-eang er mwyn llywio newidiadau yn y dyfodol.    Cyhoeddwyd y ddogfen hon i ategu’r Rhaglen Lywodraethu, i’n helpu i weithredu dros dymor y Cynulliad.

 

Mae’r blaenoriaethau strategol sy’n sail i’r dyraniadau yng Nghyllideb Ddrafft  2014-15 wedi’u cynllunio i gefnogi ein huchelgeisiau a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu.  Fel rhan o becyn y Gyllideb Ddrafft, rydym unwaith eto wedi cyhoeddi tabl sy’n dangos sut mae ein cyllidebau’n cyd-fynd â chanlyniadau’r Rhaglen Lywodraethu.   

 

Blaenoriaethau’r Gyllideb

 

Er na allwn atal gostyngiadau yn y gyllideb, mae dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddatblygu cynaliadwy wedi helpu i ddylanwadu ar y modd rydym yn eu rheoli.  Dyna pam rydym wedi blaenoriaethu gweithgareddau sy’n gwella canlyniadau ac yn lleihau effaith canlyniadau negyddol ar bobl a chymunedau Cymru, a hefyd wedi ystyried sut gallwn leihau’r galw ar wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.  Mae’r dull gweithredu ataliol hwn yn sail i'n holl gynlluniau gwario. Mae’r egwyddorion sy’n sail i ganolbwyntio ar atal yn hanfodol wrth wneud penderfyniadau o’r fath mewn ffordd gynaliadwy, yn ogystal â’r angen i edrych ar y tymor hir, ar gynnwys ac ymgysylltu â phobl a chymunedau ac ar integreiddio’n well, er mwyn sicrhau ein bod yn creu’r cysylltiadau rhwng yr heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y mae Cymru yn eu hwynebu.

 

Yn y cyd-destun hwn, mae ein penderfyniad i ddiogelu cyllid ar gyfer y GIG yn hollbwysig, ac rydym yn dyrannu £420m o gyllid ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf i’r GIG yng Nghymru.Mae gwariant ar iechyd yn hanfodol i iechyd a lles pobl Cymru yn yr hirdymor. Yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy, rydym yn cydnabod ei bod yn well cadw pobl yn iach ac yn heini na defnyddio adnoddau i atgyweirio problemau y gellir eu hosgoi.  Drwy’r Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rydym yn parhau i ariannu nifer o fentrau sydd wedi’u hanelu at atal iechyd gwael, megis rhaglenni imiwneiddio.    

 

I gyflawni ein blaenoriaethau yn wyneb cyllidebau sy’n lleihau, mae angen cael dull gweithredu cwbl newydd i weithio ar draws portffolios, ar draws y Llywodraeth ac ar draws y sector cyhoeddus ehangach hefyd, er mwyn sicrhau'r canlyniadau rydym am eu gweld ar gyfer Cymru. I gefnogi hyn, rydym wedi mabwysiadu dull gweithredu thematig wrth baratoi ein cynlluniau, a siapiwyd o amgylch Twf a Swyddi, Cyrhaeddiad Addysgol a Chefnogi Plant, Teuluoedd a Chymunedau Difreintiedig. 

 

Twf a Swyddi

 

Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru– rydym yn dyrannu £552m o gyllid cyfalaf ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi’r blaenoriaethau yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid i gefnogi tai, ffyrdd a datblygiad economaidd, ac i wella gwasanaethau cyhoeddus, gan ddarparu ar gyfer dull gweithredu mwy integredig i ymdrin â’r gweithgareddau hynny sy'n effeithio ar ein heconomi, ein cymdeithas a'n hamgylchedd. Mae’r rhaglen hon yn allweddol wrth helpu pobl ifanc i feithrin y sgiliau a’r profiadau y mae eu hangen arnynt i gael gwaith cynaliadwy a hirdymor sydd â’r potensial i ddatblygu gallu economaidd ac i leihau tlodi.

 

Twf Swyddi Cymru – rydym yn parhau i fuddsoddi yn Twf Swyddi Cymru, sy'n ymrwymiad Pump am Ddyfodol Tecach, gyda £12.5m o gyllid gan Lywodraeth Cymru ym mhob un o’r ddwy flynedd nesaf.  Bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei gefnogi gan arian cyfatebol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a bydd yn ymestyn y rhaglen tair blynedd i 2015-16.

 

Prentisiaethau – rydym wedi diogelu’r buddsoddiad ychwanegol o £20m a gyhoeddasom yng Nghyllideb Ddrafft 2013-14 i gefnogi Prentisiaethau ledled Cymru. Mae’r cyllid hwn hefyd yn awr wedi cael ei ymestyn i 2015-16, gyda £20m wedi cael ei ddyrannu i gefnogi datblygiad prentisiaethau ar bob lefel. Bydd hyn yn helpu i gefnogi pobl ifanc i gael gwaith ystyrlon, a fydd yn fanteisiol i'w cyflogadwyedd ac yn lleihau tlodi yn yr hirdymor.

 

Grant Cymorth i Gyflogwyr– rydym hefyd yn ymestyn ein rhaglen gymorth ar gyfer cyn weithwyr anabl Remploy yng Nghymru drwy’r Grant Cymorth i Gyflogwyr, sy’n ceisio helpu gweithwyr cymwys Remploy sydd wedi’u dadleoli i ddod o hyd i waith newydd. Bydd y pecyn cymorth yn cael ei ariannu gyda hyd at 2.4m yn 2014-15. Wrth gefnogi’r cyfleodd gwaith hyn ar gyfer pobl anabl yng Nghymru dros gyfnod o bedair blynedd, rydym yn helpu i sicrhau gweithlu cynhwysol a chynhyrchiol sydd hefyd yn gynaliadwy. 

 

Cyrhaeddiad Addysgol

 

Ysgolion – yn y gyllideb hon, rydym yn parhau i ddiogelu cyllidebau ysgolion. Mae hyn yn golygu ein bod yn darparu cyllid ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf. Bwriad y buddsoddiad hwn yw sicrhau ein bod yn rhoi’r gallu i bobl ifanc heddiw fod yn ddinasyddion mor dda â phosibl yn y dyfodol.  Mae’n ymwneud â’u galluogi i gyflawni eu potensial a chwarae rhan lawn yn economi a chymunedau Cymru, ac mae'n fuddsoddiad hirdymor yn nyfodol pob un ohonom. 

 

Cefnogi Plant, Teuluoedd a Chymunedau Difreintiedig

 

Dechrau’n Deg –rydym yn dyrannu £15m o gyllid ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys £10m o gyfalaf (£6m yn 2014-15 a £4m yn 2015-16) a £5m o adnoddau yn 2015-16. Mae’r rhaglen Blynyddoedd Cynnar flaenllaw hon ar gyfer teuluoedd gyda phlant o dan 4 oed yn targedu rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae hyn yn rhoi egwyddor ataliol datblygu cynaliadwy ar waith.

 

Y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf– Rhaglen Trechu Tlodi sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned yw hon erbyn hyn, a’i chylch gwaith cyson yw cefnogi’r bobl fwyaf difreintiedig yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.  Mae 52 o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf wedi cael eu sefydlu, ac mae dros 75m wedi cael ei ddyfarnu o’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mawrth 2015. Mae’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi’i strwythuro o amgylch tri amcan:  cymunedau ffyniannus; cymunedau sy’n dysgu; a chymunedau iach.  Mae cyllideb Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn cefnogi amrywiaeth o gamau gweithredu “plygu rhaglenni” allweddol.  Mae’r rhaglenni hyn a ariennir ar y cyd yn cynnwys: gwaith gydag ysgolion drwy’r Grant Amddifadedd Disgyblion i wella cyrhaeddiad addysgol plant mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf; Gwasanaethau Iechyd i ddarparu Archwiliadau Iechyd i Bobl Dros 50 oed; Y Ganolfan Byd Gwaith i’w gwneud yn haws cael gafael ar gyngor am waith.  Gyda’i gilydd, bydd cyfanswm o bron i £4m ar gael i gefnogi’r camau gweithredu hyn yn 2014-15.    

 

Swyddogion Cymorth Cymunedol –rydym yn parhau i ddarparu cyllid i gefnogi 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol, gyda chyllideb o £16.8m yn 2014-15 a 2015-16. Mae’r ffordd y mae pobl a chymunedau’n cael eu cynnwys yn eu hardal ac yn ymwneud â hi yn rhan hollbwysig o ddefnyddio dull gweithredu mwy cynaliadwy, a bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein hymrwymiad i ostwng lefelau troseddu ac ofn pobl o droseddau drwy wario ataliol.   

 

Buddion Cyffredinol –rydym wedi ymrwymo i gynnal ein buddion cyffredinol yng Nghymru, sy’n cynnwys presgripsiynau am ddim, nofio am ddim, brecwast a llaeth am ddim, a theithio consesiynol am ddim.  Mae presgripsiynau am ddim yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cymryd y presgripsiynau y mae eu hangen arnynt i reoli cyflyrau meddygol.  Mae’n eu helpu i gynllunio rôl yn yr economi ac yn atal triniaethau iechyd mwy drud yn nes ymlaen.Mae teithio consesiynol am ddim yn ymwneud ag annibyniaeth a symudedd.  Mae brecwast am ddim yn rhan o’n buddsoddiad yn iechyd ac yn addysg ein pobl ifanc.  Mae nofio am ddim yn helpu i wella lefelau cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn gwella lefelau gweithgarwch corfforol pobl Cymru yn gyffredinol, i sicrhau’r manteision iechyd a ddaw yn sgil hyn ac i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd rhwng y rheini sy’n wynebu’r anfantais economaidd fwyaf a’r sectorau o’r gymdeithas sy’n fwy llewyrchus, fel yr amlygir yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.       

 

Deddfwriaeth

 

Mae cynaliadwyedd wrth galon rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.  Bydd y rhaglen yn ei chyfanrwydd yn hybu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ac yn gwella ansawdd bywyd pobl Cymru yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n ymwneud â diffinio'r llwybr datblygu hirdymor ar gyfer ein gwlad.  Mae’n golygu pobl iach a chynhyrchiol; cymunedau llewyrchus a chynhwysol; amgylchedd amrywiol a gwydn ac economi ddatblygedig ac arloesol.  Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol yn darparu gallu sefydliadol, dyletswyddau a phwerau newydd i symud ein targedau o ddatblygu Cymru gynaliadwy yn eu blaen. Mae rhoi pwyslais ar wneud newidiadau ar gyfer yr hirdymor yn ganolog i nifer o’n cynigion deddfwriaethol sydd wedi cael eu deddfu eisoes a'r rhai a fydd yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol.  

 

Bil Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

 

Yn y Rhaglen Lywodraethu, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddeddfu er mwyn sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol sefydliadau mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, ac i sefydlu corff datblygu cynaliadwy annibynnol.     

 

Mae Bil Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod ein cymunedau yn barod am y dyfodol er mwyn iddynt hwy a'r bobl sy’n byw ynddynt gael eu gwarchod rhag y pwysau sy’n bygwth eu hyfywedd a’u gallu i oroesi.  Rydym am weld sefydliadau'n gwneud pob ymdrech i ddiogelu buddiannau hirdymor pobl Cymru pan fyddant yn bodloni anghenion taer yn y tymor byr (fel lliniaru effaith pwysau economaidd ac ariannol a chefnogi twf a swyddi), gan roi sylw i heriau sy’n bodoli rhwng y cenedlaethau, megis anghydraddoldebau iechyd, cynyddu sgiliau a lleihau effaith y newid yn yr hinsawdd.     

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Bil yn ystod tymor presennol y Cynulliad, ac wrth ddatblygu'r cynigion ar gyfer y Bil, mae hi wedi ymgysylltu ac wedi ymgynghori ag amrywiaeth eang o randdeiliaid ers gwneud yr ymrwymiad hwn.

 

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn y man ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol, wrth i ni symud at y cam o gyflwyno’r Bil yn ystod haf 2014.  

 

Y Camau Nesaf

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i asesu effaith ein penderfyniadau ynghylch gwariant ar bobl Cymru.  Rydym yn cynnal nifer o wahanol asesiadau effaith ar hyn o bryd, gan gynnwys ym maes cydraddoldeb, hawliau plant, anfantais economaidd-gymdeithasol, a’r Gymraeg – mae’r rhain i gyd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth ehangach o gynaliadwyedd ein penderfyniadau.

 

Mae faint o brofiad sydd gennym mewn perthynas â phob un o’r rhain yn amrywio’n fawr, ond rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar ein profiad ac i wella ein hasesiadau effaith bob blwyddyn. Yng nghyd-destun Bil Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) sydd yn yr arfaeth, rydym hefyd yn cymryd camau i symud at ddull gweithredu mwy integredig wrth gynnal  asesiadau effaith, o dan gochl datblygu cynaliadwy, a byddwn yn ceisio adeiladu ar hyn yng nghyllidebau’r dyfodol.

 

Jeff Cuthbert AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid